Mae fferm Trefach wedi ei lleoli yn ardal Blaenffos,Crymych,a Eglwyswrw a thua chwech milltir ir de o dref Aberteifi. Er bod mewn ardal wledig a thawel mae Trefach o fewn milltir ir briffordd A487 Aberteifi i Dinbych Y Pysgod. Teulu lleol Cymreig yw'r Jonsees yn cynyrchu cig oen, gwartheg biff a chnydau, fferm amrywiol wedi croesawu ymwelwyr ers nifer o flynyddoedd ac yn mwynhau cyfarfod a bobl o bob gwr or byd. Mae dwy safle hunan ddarpar ar gyfer ymwelwyr. Bwythyn Gwyliau un llawr, yw'r golchdy yn cyfsgu pedwar.Yr Adain yn cysgu chwech, mae'n cynnwys tri ystafell wely,un ystafell sengl, un ystafell gefell ac un ysafell teuluol gyda gwely dwbwl ac un gwely sengl. Y ddau yn foethus, cyffyrddus a chynnes gyda gwres ganolog, hefyd mae yna stof goed yn yr adain.
Mae Sir Benfro yn enwog am ei arfordir syfyrdanol, y traethau niferus prydferth (sef traeth Trefdraeth, Abereiddi, Porthmawr, Niwgwl, Barafundl, Poppit, Pwllgwaelod, ac traeth poblogaidd Dinbych Y Pysgod) . Mae yno lu o fywyd gwyllt sef y Pwffin ar Bilidowcar, blodau a phlanigion gwyllt, morloi ac weithiau dolffin ar hyd llwybyrau'r arfordir.
Mae fferm Trefach yn eistedd ar y gwastatir gyda mynyddoedd y Preseli yn y cefndir agos, mae Mynyddoedd y Preseli yn poblogaidd gan gerddwyr am ei golygfeidd ysblennydd a'i bywyd gwyllt, ar merlod bach Cymreig. Gerllaw i'r Adain a'r Golchdy mae nifer o atyniadau hanesyddol sef Castell Cilgeran, Castell Aberteifi, Cromlech Pentre Ifan, Oes Haearn Castell Henllys, Fferm Ceffylau Gwedd Eglwyswrw, ac Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi,sydd ychydig i ffwrdd. Hefyd ma Porthladd Abergwaun, Parc Pleser Oakwood, A Fferm Folly Farm o fewn hanner awr mewn modur.
Cysylltwch ag Glenda Jones 01239 841 521/07805 106 713 neu info@trefachfarm.co.uk